Rheoli dy Flog

Crea dy flog nawr! Mae'n hawdd ac AM DDIM

Cymru a'r Ffliw Moch 2009-04-30 GTM 1 @ 22:13

lloerig —

Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi awgrymu'n gryf bod pandemig ffliw ar fin digwydd, y tro cynta ers 1968.

Dywedodd y mudiad eu bod yn codi'r lefel fygythiad i bump, un yn llai na'r un uchaf.

Yng Nghymru roedd 27 o bobl yn cael eu profi am y ffliw moch ond does dim achos wedi ei gadarnhau.

Erbyn hyn, mae 19 yn cael eu profi.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Tony Jewell, wedi dweud y dylai'r cyhoedd fod yn wyliadwrus a dilyn y canllawiau gafodd eu cyhoeddi - er nad oes 'na le i bryderu.

"Rhaid i ni dderbyn y bydd 'na achosion yng Nghymru rywbryd," meddai.

Mae pum achos wedi eu cadarnhau ym Mhrydain, yn ymwneud â phobl sydd wedi bod ym Mecsico'n ddiweddar.

Dywedodd y Swyddfa Dramor na ddylai neb deithio i Fecsico oni bai bod y daith yn "hollol angenrheidiol".

Yn y wlad honno mae'r awdurdodau'n amau bod 168 wedi marw o'r ffliw ond mae wyth achos yn bendant wedi eu cadarnhau.

Dywedodd y mudiad fod codi'r lefel fygythiad yn awgrymu'n gryf fod yr haint wedi ei drosglwyddo o berson i berson mewn o leiaf ddwy wlad.

Yn yr Unol Daleithiau bu farw plentyn 23 mis oed. Roedd y bachgen o Fecsico yn ymweld â theulu yn Texas.

Camau pendant

Hon yw'r farwolaeth gynta o ganlyniad i'r ffliw y tu allan i Fecsico.

Yng Nghymru dywedodd y Gweinidog Iechyd, Edwina Hart, fod y llywodraeth yn cymryd camau pendant.

"Gallwn sicrhau'r cyhoedd ein bod yn paratoi'n drylwyr ar gyfer y diwrnod y bydd y firws yn cyrraedd Cymru.

"Mae 'na drefn gadarn mewn grym," ychwanegodd.

Bydd taflen wybodaeth ddwyieithog yn cael ei dosbarthu i bob cartref yng Nghymru.